Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,467 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7888°N 4.0968°W |
Cod SYG | W04000062 |
Cod OS | SH585235 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yn ne Gwynedd, Cymru, yw Dyffryn Ardudwy[1][2] ( ynganiad ). Saif ar y ffordd A496 rhwng Harlech ac Abermaw yn ardal Ardudwy. Mae pentref Llanbedr ychydig i'r gogledd a Thalybont i'r de.
Mae twristiaeth yn bwysig i'r pentref bellach, gan ei fod gerllaw traethau Morfa Dyffryn. Ychydig i'r gorllewin o ganol y pentref mae un o orsafoedd trên Rheilffordd Arfordir Cymru.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]