Arwyddair | Auxilio Divino |
---|---|
Math | siroedd seremonïol Lloegr |
Ardal weinyddol | De-orllewin Lloegr, Lloegr, Teyrnas Lloegr |
Prifddinas | Caerwysg |
Poblogaeth | 1,209,773 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 6,706.9855 km² |
Yn ffinio gyda | Gwlad yr Haf, Cernyw, Dorset |
Cyfesurynnau | 50.7°N 3.8°W |
GB-DEV | |
Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dyfnaint (Cernyweg: Dewnans; Llydaweg: Devnent; Saesneg: Devon). Caerwysg yw'r ddinas sirol. Mae'r sir yn ffinio â Chernyw, Gwlad yr Haf, Dorset, Môr Hafren a'r Môr Udd. Er i'r ardal gael ei goresgyn a'i gwladychu gan Sacsoniaid Wessex yn yr Oesoedd Canol Cynnar, mae'r enw yn gysylltiedig ag enw hen deyrnas Geltaidd Dumnonia.
Dyfnaint ydyw'r unig sir yn Lloegr i fod â dau arfordir ar wahân, heb gyffwrdd â'i gilydd.
Mae baner Dyfnaint yn dyddio o 2003. Fe'i mabwysiadwyd ar ôl cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y BBC. Mabwysiadwyd y briallu fel blodyn y sir hefyd.
Ceir sawl enw lle o darddiad Brythonig yn Nyfnaint (er enghraifft combe (cwm), tor (twr), pen (pen)) ond mae nhw'n fwy cyffredin ar ôl croesi Afon Tamar, ffin Cernyw, yn y gorllewin. Y dosbarth lluosocaf o'r enwau lleoedd hyn yw enwau'r Celtiaid ar afonydd.