Dysgwr y Flwyddyn

Cystadleuaeth flynyddol yw Dysgwr y Flwyddyn sy'n agored i unigolion sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Cychwynnodd y gystadleuaeth yn 1983.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu Cymraeg yn eithaf rhugl. Gall unigolyn ymgeisio’i hun, neu gall teulu, ffrind, cydymaith - unrhyw un - fynd ati i enwebu rhywun sydd wedi gwneud eu gorau gyda’r Gymraeg.[1]

Mae rhestr fer o bedwar unigolyn yn cael eu cyhoeddi fel arfer ym mis Mehefin. Caiff yr enillydd ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.[2] Mae'r enillydd yn derbyn tlws arbennig a swm o arian. Mae'r tri arall sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlysau ac yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. Bydd yr enillydd hefyd yn cael ei g/wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.[3]

  1.  Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2018. Eisteddfod Genedlaethol Cymru (11 Ionawr 2018). Adalwyd ar 4 Awst 2021.
  2. Safon Dysgwr y Flwyddyn “wedi codi’n aruthrol”, meddai beirniad , Golwg360, 10 Awst 2017.
  3.  Enillwyr Dysgwr y Flwyddyn. Eisteddfod Genedlaethol. Adalwyd ar 1 Gorffennaf 2020.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy