Edwin, brenin Northumbria | |
---|---|
Ganwyd | c. 586 Deifr |
Bu farw | 12 Hydref 633 Hatfield Chase |
Dinasyddiaeth | Deifr, Brynaich |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | brenin Northumbria, brenin Deifr, brenin Brynaich, brenin Brynaich, brenin Deifr |
Dydd gŵyl | 12 Hydref |
Tad | Ælla of Deira |
Priod | Æthelburh of Kent, Cwenburh |
Plant | Eanflæd, Osfrith (?), Eadfrith (?), Æthelhun (?), Æthelthryth (?), Wuscfrea (?) |
Brenin teyrnasoedd Deifr a Brynaich, a ddaeth yn ddiweddarach yn deyrnas Northumbria oedd Edwin, hefyd Eadwine neu Æduini (tua 586 - 12 Hydref 632/633). Daeth yn Gristion, ac ystyrid ef yn sant Cristnogol wedi iddo gael ei ladd mewn brwydr.
Roedd Edwin yn fab i Ælle, brenin Deifr. Wedi marwolaeth ei dad, daeth Æthelfrith yn frenin Northumbria, a bu Edwin mewn alltudiaeth. Mae traddodiad, er enghraifft gan Sieffre o Fynwy, iddo gael nodded gan Cadfan ap Iago, brenin Teyrnas Gwynedd. Mae Trioedd Ynys Prydain yn ei enwi fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
Lladdwyd Æthelfrith mewn brwydr gan Raedwald, brenin East Anglia tua 616, a daeth Edwin yn frenin Northumbria. Tua 616 neu 626, goresgynnodd deyrnas Frynthonig Elfed, ac ymosododd ar Ynys Manaw. Erbyn tua 627, ef oedd y mwyaf grymus o frenhinoedd yr Eingl-Sacsoniaid, a dywedir iddo feddiannu Ynys Môn am gyfnod. Ymddengys iddo orchfygu Cadwallon ap Cadfan, brenin Gwynedd, a'i orfodi i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629.
Yn 632 gwnaeth Cadwallon gynghrair gyda Penda, brenin Mersia yn erbyn Edwin. Gorchfygwyd Edwin ganddynt ym Mrwydr Meigen, a lladdwyd ef ar faes y frwydr.