Eglwys Sant Beuno, o'r gogledd | |
Math | eglwys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Beuno |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penmorfa, Dolbenmaen |
Sir | Dolbenmaen |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 28.6 metr |
Cyfesurynnau | 52.9402°N 4.17211°W |
Cod OS | SH540403 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Cysegrwyd i | Beuno |
Manylion | |
Saif Eglwys Sant Beuno ger pentrefan Penmorfa, tua dwy filltir i'r gogledd-orllewin o Borthmadog, Gwynedd, Cymru; ac mae bellach yn nwylo Friends of Friendless Churches ("Gyfeillion Eglwysi Di-gyfaill").[1] Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn adeilad cofrestredig Gradd II*.[2]
Mae'r eglwys yn nodedig am nifer o resymau pensaernïol, ond hefyd am y beddau sydd yn ei mynwent, ac yn eu plith y mae cist William Maurice a fu farw yn 1622, sydd wedi'i chofrestru'n Gradd II.[3] Ceir porth arbennig ar ochr ddwyreiniol y fynwent, a godwyd yn 1698 a'i hatgyweirio yn y 19g, ac a wnaed o garreg, gyda tho llechen ac mae ynddo ddwy fainc bren y naill ochr a'r llall, sydd hefyd yn Radd II.[4]