Cyfundeb o Eglwysi Uniongred yw Eglwysi'r tri cyngor, neu Eglwysi Uniongred Orientalaidd. Mae'r eglwysi yma mewn cymundeb a'i gilydd ond nid a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol.
Fe'i gelwir yn Eglwysi'r tri cyngor oherwydd eu bod yn cydnabod y tri Cyngor Eglwysig cyntaf, Cyngor Cyntaf Nicaea, Cyngor Cyntaf Caergystennin a Cyngor Ephesus, ond yn gwrthod penderfyniadau Cyngor Chalcedon. Cynhaliwyd Cyngor Chalcedon yn 451 dan nawdd yr Ymerawdwr Bysantaidd Marcianus. Trafodwyd y cwestiwn a oedd gan Grist natur ddynol a natur ddwyfol, neu a oedd ei natur ddynol wedi ei lyncu yn y dwyfol. Cytunodd y cyngor ar athrawiaeth ‘dwy natur mewn un person’, ond gwrthododd patriarchiaid Alexandria, Antioch a Jeriwsalem dderbyn hyn, gan ddechrau'r ymraniad rhwng Eglwysi'r tri cyngor a'r eglwysi eraill. Cred Eglwysi'r tri cyngor mewn un natur, neu monoffisiaeth.
Mae'r eglwysi yma yn cynnwys: