Egni hydro

Gwaith hydroelectrig Llyn Stwlan, ger Ffestiniog, Gwynedd lle cynhyrchir 360 MW o drydan o fewn eiliadau o wasgu botwm

Egni (ar ffurf trydan) wedi'i gynhyrchu o ddŵr ydy egni hydro neu egni dŵr neu hydroelectrig ac mae sawl math ar gael heddiw. Daw o ganlyniad i ddŵr yn symud mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, dŵr yn troi olwyn y felin. Ymhlith y dulliau mwyaf poblogaidd o greu trydan, y mae hydroelectrig megis 'mynydd electrig', Llanberis lle mae dŵr y llyn yn llifo i lawr pibellau drwy rym disgyrchiant ac yn troi tyrbeinau. Cynhyrchir 1728 MegaWatt (MW) o drydan yma drwy droi chwe generadur anferthol.

Ceir dulliau eraill o symud egni o un lle i'r llall drwy egni hydro ee

  • tyrbeini mewn afonydd
  • egni o'r llanw
  • egni allan o donnau'r môr
  • egni allan o fortecs

Ceir hefyd ffermydd gwynt yn y môr, ffermydd megis fferm wynt North Hoyle gerllaw Prestatyn, ond nid oes a wnelo'r rhain ddim oll ag egni hydro. Ynni gwynt a gynhyrchir o felinau gwynt ar y môr yw'r rhain.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy