Ehedydd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Alaudidae |
Genws: | Alauda |
Rhywogaeth: | A. arvensis |
Enw deuenwol | |
Alauda arvensis Linnaeus, 1758 |
Mae'r Ehedydd (Alauda arvensis) yn aelod o deulu'r Alaudidae, yr ehedyddion. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia yn ogystal â mynyddoedd Gogledd Affrica.[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Passeriformes.[2][3]
Dyma enw'r aderyn hwn mewn rhai o'r ieithoedd Celtaidd eraill:
Nid yw'r Ehedydd yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, heblaw bod yr adar sy'n nythu yn y rhannau mwyaf gogleddol yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yn y dwyrain mae'n mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf.
Mae'r Ehedydd yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, er ei fod hefyd yn canu oddi ar ben polyn neu unrhyw safle addas arall yn ogystal. Pan nad yw'n canu nid yw mor hawdd ei adnabod. Mae'n aderyn brown gyda bol mwy gwelw, 16–18 cm o hyd a gyda plu hirach ar y pen. Gall yr aderyn godi'r plu yma. Wrth iddo hedfan gellir gweld gwyn ar ochr y gynffon ac ar ran gefn yr adenydd.
Mae'n nythu ar dir agored, rhostir neu gaeau. Adeiledir y nyth ar lawr ac mae'n dodwy 3-6 wy. Hadau yw ei brif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.
Mae'r Ehedydd yn aderyn cyffredin trwy Gymru, hyd yn oed yn uchel yn y mynyddoedd, ond mae ei nifer wedi gostwng yn yr 50 mlynedd diwethaf oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.