Eidaleg | ||
---|---|---|
italiano, lingua italiana | ||
Ynganiad IPA | ||
Siaredir yn | Yr Eidal, San Marino, Malta, Y Swistir, Y Fatican, Slofenia (Istria Slofenaidd), Croatia (Swydd Istria), yr Ariannin, Brasil | |
Rhanbarth | (fe'i gwyddys gan lawer o bobl hŷn a sectorau masnachol yn Somalia, Eritrea, a Libia; fe'i defnyddir yn y Senedd Ffederal Rhyngbarthol yn Somalia) | |
Cyfanswm siaradwyr | 62 miliwn o bobl, sy'n frodorol a brodorol-ddwyieithog Cyfanswm: 80 miliwn;[1] 85 miliwn yn ôl pob math[1] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
System ysgrifennu | Lladin (Yr wyddor Eidaleg) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Yr Undeb Ewropeaidd Yr Eidal Y Swistir San Marino Dinas y Fatican Croatia (Swydd Istria) Slofenia (Istria Slofenaidd) | |
Rheoleiddir gan | nid yn swyddogol gan Accademia della Crusca | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | it | |
ISO 639-2 | ita | |
ISO 639-3 | ita | |
Wylfa Ieithoedd | 51-AAA-q |
Eidaleg (italiano) yw iaith Yr Eidal, San Marino, Swistir a'r Fatican. Yn ôl ystadegau yr Undeb Ewropeaidd, siaredir Eidaleg fel mamiaith gan 65 miliwn o bobl yn yr UE (13% o boblogaeth yr UE), yn Yr Eidal yn bennaf, ac fel ail iaith gan 14 miliwn o bobl (3%)[1]. Gan gynnwys siaradwyr Eidaleg mewn gwledydd nac ydynt yn rhan o'r UE (megis Y Swistir ac Albania) ac ar gyfandiroedd eraill, mae yna dros 85 miliwn o bobl yn siarad yr iaith.[2][3]