Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf, rhwng 3 - 10 Awst 2024. Hwn oedd Eisteddfod gyntaf yr Archdderwydd Mererid Hopwood. Hwn oedd y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei gynnal ym Mhontypridd ers 1893.[10]
Llywydd yr ŵyl oedd Cennard Davies, athro a dreuliodd ddegawdau yn dysgu Cymraeg i oedolion.[11] Gwahoddwyd chwech o hoelion wyth yr ardal i dderbyn teitl Llywyddion Anrhydeddus, am eu "cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol". Y chwech oedd Eirlys Britton, Wil Morus Jones, Susan Jenkins, Geraint Davies, Menna Thomas a Martyn Geraint.[12]
Cyhoeddwyd fod y gronfa leol wedi codi £332,000 ar gyfer yr ŵyl. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, eu bod "wedi cyrraedd eu targed ariannol a mwy". Darparodd Llywodraeth Cymru £350,000 i’r Eisteddfod er mwyn darparu tocynnau am ddim i unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is yn ardal Rhondda Cynon Taf.[13]