Elfen gemegol

Elfennau yw blociau adeiladu pob sylwedd. Sylwedd na ellir ei dorri i lawr na'i newid yn sylweddau symlach trwy unrhyw ddull cemegol yw elfen gemegol. Mae elfen wedi ei hadeiladu o atomau unigol, ac ym mhob elfen mae gan bob atom yr un nifer o protonau. Yn aml fe ddisgrifir elfen fel sylwedd lle mae bob atom yr un fath, ond nid yw hyn yn hollol gywir gan y gall fod isotopau ganddo. Mae elfennau yn cynnwys un math o atom yn unig. Mae llawer iawn o sylweddau a welwn o ddydd i ddydd yn elfennau e.e. alwminiwm, copr, haearn neu ocsigen. Mae elfennau wedi eu gwneud o ronynnau bychain, sef atomau. Dim ond un math o atom sydd mewn elfen.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy