Math | tref, bwrdeistref fach |
---|---|
Poblogaeth | 23,128, 24,760 |
Gefeilldref/i | Landshut |
Daearyddiaeth | |
Sir | Moray |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.6464°N 3.3153°W |
Cod SYG | S20000253, S19000282 |
Cod OS | NJ220626 |
Cod post | IV30 |
Tref sirol Moray, yr Alban, ydy Elgin[1] (Gaeleg yr Alban: Eilginn;[2] Sgoteg: Ailgin).[3] Saif ar Afon Lossie ac ar y ffordd A96 (a'r rheilffordd) rhwng Inverness ac Aberdeen. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 23,130.[4]
Mae Caerdydd 686 km i ffwrdd o Elgin ac mae Llundain yn 712.6 km. Y ddinas agosaf ydy Inverness sy'n 57.5 km i ffwrdd.
Dyma ganolfan weinyddol a masnachol Moray. Tarddodd y dref i'r de o Afon Lossie ar dir uwchben y gorlifdir. Cofnodwyd Elgin gyntaf ym 1190. Fe'i gwnaed yn burgh brenhinol yn y 12g gan Dafydd I, brenin yr Alban, a adeiladoedd gastell ar ben Lady Hill i'r gorllewin o'r dref. Roedd Elgin yn gartref poblogaidd i frenhinoedd cynnar yr Alban: cynhaliodd David I, Wiliam I, Alexander II ac Alexander III lys yno ac hela yn y coedwigoedd brenhinol.
Dechreuwyd adeiladu Eglwys Gadeiriol Elgin ym 1224 ac fe’i cwblhawyd ar ôl 1242. Dinistriwyd yr adeilad gan dân ym 1270 a daeth eglwys newydd, fwy yn ei lle. Cafodd honno ei difrodi gan dân eto yn 1390 a 1402, a'i hadfer eto. Gadawyd yr eglwys ym 1560, yn ystod Diwygiad Protestannaidd yr Alban. Ar ôl i'r plwm gael ei dynnu o'r to ym 1567 dirywiodd yr adeilad. Daeth storm ym 1637 â rhan o'r to i lawr, ac ym 1711 cwympodd y pigdwr serth, gan fynd â waliau corff yr eglwys gydag ef. Roedd rhywfaint o waith cadwraeth yn y 19g a'r 20g, ond mae'r strwythur yn adfail.
Landshut yn yr Almaen ydy'r efeilldref.