Emrys Sant | |
---|---|
Ganwyd | c. 339 Trier, Augusta Treverorum |
Bu farw | 4 Ebrill 397 Milan, Mediolanum |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | llenor, athronydd, diwinydd, offeiriad Catholig, gwleidydd, esgob Catholig |
Swydd | llywodraethwr Rhufeinig, Archesgob Milan, esgob |
Dydd gŵyl | 7 Rhagfyr, 20 Rhagfyr |
Tad | Aurelius Ambrosius |
Roedd Emrys Sant (Lladin: Aurelius Ambrosius c. 340 – 4 Ebrill 397) yn gyffeswr, yn ddoethor eglwysig ac yn esgob catholig Milan rhwng 374 a 397. Roedd yn un o'r bobl mwyaf dylanwadol yn yr eglwys drwy Ewrop yn y 4c. Roedd yn raglaw-ynad (praefectus consularis) o arfordir Liguria ac ardal Emilia yn yr hyn a adnabyddir heddiw fel 'yr Eidal'. Yn Milan roedd ei bencadlys, cyn ei ordeinio'n annisgwyl yn esgob yn 374. Gwrthwynebai Ariaeth, neu Ariadaeth, i'r carn; sef gredo fod Iesu Grist yn fab Duw ac a grewyd ganddo. Cyhuddwyd Emrys o erlid Ariaethwyr, Iddewon a phaganiaidd.[1]
Dywed traddodiad iddo hyrwyddo "llafarganu atepganiadol" ble adleisir un ochr y côr gan yr ochr arall, bob yn ail. Honnir hefyd iddo gyfansoddi Veni redemptor gentium, un o emynau'r Adfent.
Fe'i ganwyd yng Ngallia Belgica (yr Almaen heddiw) a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yr adeg honno. Mae'n bosibl mai ei dad oedd Aurelius Ambrosius.[2] Mae Emrys yn nodedig am ei ddylanwad ar Awstin o Hippo ac am esgymuno'r ymherawdwr Theodosius ar ôl cyflafan mawr yn Thessalonica.
Mae'r Eglwys yn dathlu ei wyl ar y 7fed Rhagfyr.