Eredivisie

Yr Eredivisie (Cymraeg: Adran Anrhydedd) yw prif adran bêl-droed yr Iseldiroedd. Mae 18 tîm yn cystadlu yn y gynghrair gyda timau yn disgyn i – ac yn esgyn o'r – Eerste Divisie. Mae'r tymor yn rhedeg rhwng Awst a Mai.

Ffurfiwyd y gynghrair ym 1956, dwy flynedd ar ôl i bêl-droed droi'n broffesiynol yn yr Iseldiroedd. Ajax yw'r tîm mwyf llwyddiannus ar ôl ennill 33 o bencampwriaethau.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy