Esgob Tyddewi

Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Arfbais Esgobaeth Tyddewi.

Llywodraethwr eglwysig Esgobaeth Tyddewi yng ngorllewin Cymru yw Esgob Tyddewi. Yn draddodiadol ystyrir Dewi Sant fel Esgob cyntaf Tyddewi. Mae cofnodion am y cyfnod cynnar yn gyfyngedig i ambell gofnod yn yr Annales Cambriae a Brut y Tywysogion. Er enghraifft, cofnodir i'r Daniaid anrheithio Tyddewi yn 999, a lladd yr esgob Morgeneu; y cyntaf o Esgobion Tyddewi, meddir, i dorri ar draddodiad Dewi o ymwrthod a bwyta cig.

Yn yr 11g roedd yr esgobion Sulien a'i fab Rhygyfarch ap Sulien yn ysgolheigion nodedig. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidiis ("Buchedd Dewi"), a gyfansoddwyd i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint. Yn 1176, enwebwyd Gerallt Gymro yn esgob, ond gwrthododd y brenin Harri II o Loegr ei dderbyn, yn ôl pob tebyg oherwydd ei ymgyrch dros annibyniaeth yr esgobaeth, ymgyrch a gafodd gefnogaeth Llywelyn Fawr.

Yn ystod ymrysonau crefyddol yr 16g, carcharwyd yr esgob Robert Ferrar am heresi gan Mari Tudur, ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555.

Yr esgob presennol yw'r Gwir Barchedig Dorrien Davies a benodwyd , ym mis Hydref 2023.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy