Math | esgobaeth Anglicanaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.26°N 3.44°W |
Crefydd/Enwad | Eglwys Loegr |
Un o'r chwe esgobaeth sy'n ffurfio'r Eglwys yng Nghymru yw Esgobaeth Llanelwy. Yn hanesyddol roedd yn un o bedair esgobaeth hanesyddol Cymru (Tyddewi, Bangor a Llandaf oedd y lleill). Mae'r esgobaeth bresennol yn cynnwys Sir Ddinbych a Sir y Fflint, rhai rhannau o sir Conwy a Powys, ac ychydig o sir Gwynedd. Mae'r gadeirlan a'r eglwys gadeiriol yn Llanelwy, sedd Esgob Llanelwy.
Ychydig iawn a wyddys am hanes cynnar yr esgobaeth. Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd yr esgobaeth gan Sant Cyndeyrn, a elwir hefyd yn Kentigern a Mungo, tua chanol y 6g. Yr unig berson arall a enwir fel esgob Llanelwy cyn cyfnod y Normaniaid yw Sant Asaph. Fel yn achos gweddill esgobaethau cynnar Cymru, roedd esgobaeth Llanelwy yn yr Oesoedd Canol Cynnar yn uned lai diffiniedig o ran ei thiriogaeth a'i threfn eglwysig nag yn ddiweddarach. Pennaeth ysbrydol ar nifer o glasau ac eglwysi lled-annibynnol oedd yr esgob.
Daeth newid gyda dyfodiad y Normaniaid i Gaer a gogledd Cymru. Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at Esgobaeth Llanelwy, ond heb ei henwi'n uniongyrchol, mewn dogfen eglwysig sy'n dyddio i 1125. Penodwyd y Normaniad Gilbert yn esgob Llanelwy tua'r flwyddyn 1141 (neu 1143). Cafodd ei olynu gan Sieffre o Fynwy yn 1152.
O ddiwedd y 12g ymlaen, sefydlwyd sawl tŷ crefydd yn yr esgobaeth, yn cynnwys abatai Dinas Basing, Glyn Egwestl, ac Ystrad Marchell, ynghyd â lleiandy Llanllugan.
Pan ddiffinwyd tiriogaeth yr esgobaeth yn y 12g, roedd cantref Dyffryn Clwyd yn perthyn i Esgobaeth Bangor, fel ynys yng nghanol Esgobaeth Llanelwy. Erbyn hyn mae'r "ynys" honno wedi diflannu ac mae'r esgobaeth yn ymestyn o lan afon Conwy yn y gorllewin i afon Dyfrdwy yn y dwyrain.