Math | esgobaeth Anglicanaidd |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.88°N 5.27°W |
Un o'r chwe esgobaeth sy'n ffurfio'r Eglwys yng Nghymru yw Esgobaeth Tyddewi. Llywodraethir yr esgobaeth gan Esgob Tyddewi o'r Esgobdy ger yr Eglwys Gadeiriol yn ninas Tyddewi, Sir Benfro. Mae'n un o'r pedair esgobaeth wreiddiol yn y wlad, gydag esgobaethau Bangor, Llandaf a Llanelwy.
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd yr esgobaeth gan Dewi Sant. Yn ail chwarter y 12g, ceisiodd yr Esgob Bernard o Dyddewi gael y Pab i gydnabod Tyddewi fel archesgobaeth Cymru. Yn ddiweddarach bu Gerallt Gymro yn parhau â'r ymgyrch, ond methiant fu oherwydd gwrthwynebiad gwleidyddol Archesgob Caergrawnt a welai fygythiad i awdurdod Caergrawnt pe sefydlid Eglwys annibynnol yng Nghymru.[1]
Yn yr Oesoedd Canol roedd Esgobaeth Tyddewi yn cynnwys dros draean o dir Cymru o fewn ei ffiniau, gan ymestyn o Sir Benfro mor bell ag Afon Dyfi i gyfeiriad y gogledd, i'r ffin â Lloegr i'r dwyrain, gan gynnwys Rhwng Gwy a Hafren a rhan helaeth Brycheiniog, a'r cyfan o deyrnas Deheubarth, yn cynnwys penrhyn Gŵyr. Erbyn heddiw, mewn canlyniad i ad-drefnu'r Eglwys yng Nghymru, mae'n sylweddol llai.