Etholedigaeth

Etholedigaeth, mewn diwinyddiaeth, yw rhagordeiniad personau neu bobloedd neilltuol i iachawdwriaeth yn unol ag ewyllys benarglwyddiaethol Duw.[1] Gelwir y cyfryw bobl yn "etholedig".

Mae'r Iddewon yn ystyried eu hunain yn bobl etholedig gan Dduw, mewn cyferbyniaeth â'r "pobloedd cenhedlig" (neu "y Cenhedloedd") sydd ddim yn Iddewon.

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 1, t. 1254.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy