Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015

Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015

← 2012 27 Medi 2015 2017 →

135 o seddi yn Llywodraeth Catalwnia
68 sedd sydd angen i gael mwyafrif
Cofrestrwyd5,510,713 increase1.8%
Nifer a bleidleisiodd4,115,807 (77.4%)
increase9.6%
  Plaid cyntaf Yr ail blaid Y drydedd blaid
 
Arweinydd Artur Mas Inés Arrimadas Miquel Iceta
Plaid Together for Yes Ciutadans Plaid Sosialaidd Catalwnia
Arweinydd ers 15 Gorffennaf 2015 3 Gorffennaf 2015 19 Gorffennaf 2014
Etholiad diwethaf 58 sedd, 36.4% 9 sedd, 7.6% 20 sedd, 14.4%
Seddi a enillwyd 62 25 16
Newid yn y seddi increase4 increase16 Decrease4
Pleidlais boblogaidd 1,620,973 734,910 522,209
Canran 39.5% 17.9% 12.7%
Gogwydd increase3.1% increase10.3% Decrease1.7%

  Pedwaredd plaid Pumed plaid Chweched plaid
 
Arweinydd Lluís Rabell Xavier García Albiol Antonio Baños
Plaid CatSíqueesPot Plaid Pobl Catalwnia Candidatura d'Unitat Popular, CUP
Arweinydd ers 23 Gorffennaf 2015 28 Gorffennaf 2015 30 Gorffennaf 2015
Etholiad diwethaf 13 sedd, 9.9% 19 sedd, 13.0% 3 sedd, 3.5%
Seddi a enillwyd 11 11 10
Newid yn y seddi Decrease2 Decrease8 increase7
Pleidlais boblogaidd 366,494 348,444 336,375
Canran 8.9% 8.5% 8.2%
Gogwydd Decrease1.0% Decrease4.5% increase4.7%

Arlywydd cyn yr etholiad

Artur Mas
Convergència Democràtica de Catalunya

Etholwyd Arlywydd

i'w benderfynu

Ar 14 Ionawr 2015 cyhoeddodd Llywydd Catalwnia, Artur Mas, ei fod yn galw Etholiad Seneddol Catalwnia, 2015 yn gynnar: ar ddydd Sul 27 Medi 2015 er mwyn ethol Aelodau Seneddol i 11fed Llywodraeth y wlad; 135 o seddi.[1] Cynhaliwyd yr Etholiad diwethaf ar 25 Tachwedd 2012.

Dywedodd Artus Mas mai ei fwriad oedd i'r etholiad fod yn bleidlais o ffydd yn annibyniaeth Catalwnia gan fod refferendwm swyddogol ar y pwnc wedi'i wahardd gan Lywodraeth Sbaen. Mae hyn yn dilyn Refferendwm Catalwnia 2014, sef refferendwm answyddogol a gynhaliwyd yn Nhachwedd 2015 - yn groes i orchymyn gan Lys Cyfansoddiadol Sbaen i ganslo "ymgynghoriad poblogaidd di-refferendwm" a oedd i'w gynnal ar yr un dyddiad (9 Tachwedd). Yn ôl Mas, yr etholiad hwn fydd y "penderfyniad terfynol" ar y mater.

Galwyd yr etholiad wedi cytundeb gan brif sefydliadau a chyrff y wlad: Convergència i Unió, Esquerra Republicana de Catalunya (arweinydd: Oriol Junqueras), Assemblea Nacional Catalana (Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia; arweinydd: Carme Forcadell), Òmnium Cultural (arweinydd: Muriel Casals), a'r Associació de Municipis per la Independència (Llywydd: Josep Maria Vila d'Abadal).[2] Canlyniad y bleidlais oedd i'r glymbleidiau dros annibyniaeth dderbyn mwyafrif llwyr — 72 sedd o fewn senedd gyda chyfanswm o 135 sedd.

  1. "Mas announces an agreement with ERC and will call a snap election for 27 September 2015" (yn Spanish). El País. 2015-01-14. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. www.ara.cat; adalwyd 2015

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy