| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pob un: 646 sedd 324 sedd sydd angen i gael mwyafrif | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 61.4% | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Map o ganlyniad yr etholiad. Y lliwiau'n dynodi'r blaid fuddugol. * Mae'r symbol hwn yn dynodi newid yn y ffiniau ^ Figure does not include the speaker | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Etholiad 2001 |
Etholiad 2010 |
Etholiad 2015 |
Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2001 ar ddydd Iau 5 Mai 2005 pan etholwyd 646 Aelod Seneddol i Dŷ Cyffredin y Deyrnas Unedig, sef is-dŷ Senedd y Deyrnas Unedig. Y Blaid Lafur a gipiodd mwyafrif y seddi, ac etholwyd Tony Blair yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, gyda mwyafrif o 66 sedd - o'i gymharu â mwyafrif o 160 yn yr etholiad diwethaf.
Prif faes y Blaid Lafur yn ei mantiffesto oedd economi cryf; eithr dirywiodd poblogrwydd Blair oherwydd ei benderfyniad unben i ddanfon milwyr i Irac yn 2003, a chychwynodd y dirywiad hyd yn oed cyn hynny. Prif faes y Blaid Geidwadol o dan arweiniad Michael Howard oedd y mewnlifiad, a sut i'w leihau, ynghyd â lleihau troseddau; eu slogan oedd Are you thinking what we're thinking?. Roedd y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn chwyrn yn erbyn danfon milwyr i Irac, o'r cychwyn, gan gywain seddi oddi wrth cyn gefnogwyr y Blaid Lafur.
Dychwelodd Tony Blair i 10 Stryd Downing, fel Prif Weinidog, gyda Llafur wedi dal eu gafael mewn 355 AS a 35.2% o'r ethoilaeth wedi peidleisio iddynt.
Cyflwynwyr y rhaglen fyw ar y BBC yn Saesneg oedd: Peter Snow, David Dimbleby, Jeremy Paxman ac Andrew Marr.[1]