Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 ar 8 Mehefin2017. Yn unol â Deddf Seneddau Tymor Sefydlog 2011, dyddiad arferol yr etholiad fyddai 7 Mai 2020, ond galwodd y Prif Weinidog Teressa Mai am etholiad gynnar gan fod ei mwyafrif o 12 mor fach a phleidleisiodd Aelod SeneddolTŷ'r Cyffredin o blaid etholiad gynnar, o 522 i 13.[1] Fodd bynnag, collwyd y mwyafrif hwn o ganlyniad i'r etholiad a chafwyd senedd grog.
Gydag etholiadau lleol wedi'u trefnu ar gyfer 4 Mai 2017 roedd y pleidiau wedi bod yn ymgyrchu'n barod ar lefel leol, er mai annisgwyl oedd y cyhoeddiad am yr etholiad cyffredinol fis yn ddiweddarach. Oherwydd hynny nid oedd nifer o'r pleidiau wedi dewis ymgeiswyr ar gyfer yr etholaethau felly roedd yn rhaid cyflymu'r dewis mewn sawl ardal. Roedd galw'r etholiad hon, felly, yn dipyn o sioc i bawb. Pan wnaed hynny roedd y Ceidwadwyr 20% ar y blaen i Lafur, dan arweiniad Jeremy Corbyn; credodd Theresa Mai y byddai'n ychwanegu cryn dipyn at ei mwyafrif o 12.