Fertebratau | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Is-ffylwm: | Vertebrata |
Dosbarthiadau traddodiadol | |
Agnatha |
Is-ffylwm o anifeiliaid cordog ag asgwrn cefn a chymesuredd dwyochrol yw fertebratau (neu anifeiliaid asgwrn-cefn). Maen nhw'n cynnwys pysgod, amffibiaid, ymlusgiaid, adar a mamaliaid. Mae ganddynt asgwrn cefn cylchrannog, mewnysgerbwd cymalog, naill ai cartilagaidd neu esgyrnog, ac ymennydd mawr wedi'i amgáu mewn penglog.