Enghraifft o'r canlynol | cangen o ffiseg |
---|---|
Math | ffiseg fodern |
Rhan o | ffiseg, ffiseg fodern |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cangen o ffiseg yw ffiseg gronynnau neu ffiseg y gronyn (Saesneg: particle physics) sy'n astudio cyfansoddion elfennol mater ac ymbelydredd a'r rhyngweithiau rhyngddynt. Mae weithiau'n cael ei galw'n ffiseg ynni dwys. Gellir creu'r gronynnau elfennol hyn mewn cyflymydd gronynnol (particle accelerator), fel yr un sydd gan CERN. Mae ymchwiliad yn y maes yma wedi creu rhestr hir o ronynnau.