Math o gyfrwng | dosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol |
---|---|
Math | phosphorus compound, oxygen compound |
Rhan o | phosphate-containing compound metabolic process, sodium:phosphate symporter activity, phosphate:proton symporter activity |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cemegyn ac ion anorganig yw ffosffad (PO43-). Halen asid ffosfforig, wedi'i nodweddi gan atom o ffosfforws. Oherwydd ei natur dra adweithiol, ar y ffurf yma wedi'i glymu ag ocsigen (wedi'i ocsideiddio) y mae'r elfen ffosfforws yn bodoli mewn natur bron yn ddieithriad. (Pan nad yw wedi ïoneiddio, ffurfia asid ffosfforig (H3PO4).) Mewn cemeg organig gall ffosffad ffurfio esterau gyda chyfansoddion eraill. Mae esterau (ac anhydradau asid) ffosffad yn hollbwysig mewn biocemeg a gweithgaredd cemegol bywyd. Mae patrwm ïoneiddio ffosffad, er yn syml, yn cyfrannu'n sylweddol i'r hyn y galwn yn fywyd. Enghraifft o hyn yw'r modd y mae yn cadw pH celloedd (yn arbennig y cytoplasm) yn gyson (byffer). Heb hwn ni fyddai modd i broteinau gweithredu fel ensymau. Fel arfer mae'r ffosffad biolegol yn bodoli mewn ffurf wedi'i glymu a moleciwl organig (hy. yn cynnwys carbon) trwy fond ester, er bod bondiau asid anhydrid yn nodweddi prosesau sy'n ymwneud ag egni (ee. ATP a 1,3 diffosffoglycerad yng nglycolysis).