Ffraid | |
---|---|
Ganwyd | 451, 453 Faughart |
Bu farw | 1 Chwefror 523 Cill Dara |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | lleian, esgob |
Swydd | abades |
Dydd gŵyl | 1 Chwefror |
Santes oedd Ffraid neu Brîd (Gwyddeleg: Naomh Bhríde neu Brigit, Saesneg: Bridget) (fl. 451 – 525) yn arweinydd cymuned Cristnogol yn Iwerddon. Ystyrir hi yn un o nawdd-saint Iwerddon gyda Padrig a Colum Cille. Mae nifer o eglwysi yng Nghymru hefyd wedi eu cysegru iddi.
Y buchedd cynharaf yw Vita Brigitae gan Cogitosus, gwaith y credir ei fod yn dyddio i tua 650. Yn ôl traddodiad ganed Ffraid yn Faughart ger Dundalk, Swydd Louth. Roedd ei thad, Dubhthach, yn bagan, tra'r oedd ei mam, Brocca, yn gaethferch Bictaidd oedd wedi ei bedyddio gan Sant Padrig. Mae hanes amdani, pan yn blentyn, yn gwerthu cleddyf gwerthfawr ei thad gan ddefnyddio yr arian a'i cafodd i fwydo tlodion a mabwysiadwyd hi fel nawdd-santes y Mudiad Heddwch yn Iwerddon yn ail haner y 20g. Gelwir Brîd weithiau yn 'Mair y Gaeliaid' yn Iwerddon. Mae traddodiad amdani yn dweud eu fod hi yn arfer gwneud croes allan o wellt er mwyn esbonio am groeshoeliad Iesu i'r werin. Yn Iwerddon mae hi'n nawdd-santes y tân a'r aelwyd.
Mynnodd Ffraid dilyn ffydd ei mam, a chredir iddi sefydlu ei chymuned gyntaf yn Clara, Swydd Offaly. Tua 470 sefydlodd cymuned Cristnogol, i ddynion a menywod, yn Kildare. Daeth Abaty Kildare yn enwog trwy Ewrop. Bu farw yno tua 525 a'i chladdu ger yr allor, ond yn ddiweddarch symudwyd ei gweddillion.
Mae chwedl poblogaidd yn dweud fod hi oedd y byd-wraig a cynorthwyodd Mair wrth iddi esgor a'r Iesu. Ni all y Brîd hon fod Brîd o Cildara ond efallai y mae yn tystiolaeth i gymorth arhoddwyd gan santesau i famau oedd yn esgor.
Ystyrir Ffraid fel nawdd-santes Trearddur ar Ynys Môn, lle mae chwedl amdani yn croesi'r môr o Iwerddon ar dywarchen. Wedi iddi lanio tyfodd y dywarchen yn fryncyn, ac adeiladodd hi gapel arno; gelwir y safle yn Tywyn y Capel. Ceir gweddillion mynwent Gristionogol gynnar yma. Ceir yr un chwedl yn gysylltiedig ag aber Afon Conwy, lle ceir un o'r pentrefi o'r enw Llansanffraid, sef Llansanffraid Glan Conwy. Ceir hefyd Llansanffraid-ym-Mechain ym Mhowys a Llansanffraid Glyn Ceiriog, a hefyd Sain Ffrêd yn Sir Benfro a Llansanffraid-ar-Elai ym Mro Morgannwg.
Sylwodd Emrys George Bowen at y ffaith fod Ffraid yw'r unig un o'r saint Celtaidd gyda llefydd wedi cysegru iddi ar draws Cymru, yn lle cyfuno'r cysegriadau i gyd mewn un ardal. Awgrymodd dau reswm am hwn. Efallai daeth nifer o disgyblion Brîd i Gymru a daeth cysegriad i Brîd yn cyfysyr i gysegriad i un o'r santesau Gwyddelig. Efallai fod mwy nag un santes o'r un enw.[1] Mae Brîd yn mwy cyffredin yn y dde a Ffraid yn y gogledd. Ar benrhyn Llŷn ac yn ardal Llansanffraid Glan Conwy mae traddodiad leol yn cyfeirio at Ffraid fel nawdd-santes pysgotwyr; teyrned i santes leol efallai. Meddai Henken fod hanesion a htraddodiadau cysylltiedig a Brîd o Cildara, a rhai am Brigitta o Sweden wedi cymysgu i'r fath raddau gyda santes, neu santesau brodorol fel nid oes modd eu gwahanu.[2]