Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.538°N 3.941°W |
Cod OS | SN684951 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yng nghymuned Ysgubor-y-coed, Ceredigion, Cymru, yw Ffwrnais ( ynganiad ) (Saesneg: Furnace).[1] Saif yng ngogledd y sir, ar lan ddwyreiniol Afon Dyfi, tua milltir a hanner o'r afon ei hun, ar briffordd yr A487 rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, ger Eglwys Fach.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Dal y pentref ei enw o'r ffwrnais a sefydlwyd yno ganol y 18g. Mae Ffwrnais Dyfi yn ffwrnais haearn yn cael ei danio gan olosg. Detholwyd safle ger rhaeadr ar afon Einion, ffrwd fynyddig sy'n un o ledneintiau afon Dyfi, i fanteisio ar y cyflenwad o olosg a oedd ar gael o'r coedwigoedd lleol ar lethrau isaf bryniau Pumlumon. Byddai'r mwyn haearn yn cael chludo yno gan longau arfordirol o Cumbria ac i fyny afon Dyfi. Gwelir yr hen felin ddŵr yno o hyd yn y pentref.
Adeiladwyd y ffwrnais tua'r flwyddyn 1755, ond dim ond am tua hanner canrif y cafodd ei ddefnyddio. Rhoddwyd y gorau i'r gwaith yn 1810. Mae'r ffwrnais yn atyniad twristaidd dan ofal Cadw bellach.[4]
Mae'r olwyn ddŵr yn atyniad twristaidd boblogaidd i bobl sy'n ymweld â'r ardal.