Math | bryn, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 468 metr |
Cyfesurynnau | 51.95349°N 4.8161°W |
Cod OS | SN0658832084 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 64 metr |
Rhiant gopa | Foel Cwmcerwyn |
Cadwyn fynydd | Mynydd Preseli |
Copa ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Foel Eryr. Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r gogledd o bentref Rhos-y-bwlch ac i'r gorllewin o gopa Foel Cwmcerwyn.
Ceir carnedd o Oes yr Efydd ac olion tai ar y mynydd, ac ar Banc Du i'r de o'r copa mae olion cyfres o sefydliadau, o'r Oesoedd Canol yn ôl i'r cyfnod Neolithig. Mae Afon Gwaun yn tarddu ar lethrau Foel Eryr.