Frankie Boyle | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Francis Martin Patrick Boyle ![]() 16 Awst 1972 ![]() Pollokshaws ![]() |
Man preswyl | Glasgow ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | digrifwr, hunangofiannydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, digrifwr stand-yp, cyflwynydd teledu, sgriptiwr ![]() |
Prif ddylanwad | Billy Connolly, Bill Hicks, Spike Milligan ![]() |
Gwefan | http://www.frankieboyle.com/ ![]() |
Mae Francis Martin Patrick "Frankie" Boyle[1] (ganed 16 Awst 1972) yn gomedïwr ac ysgrifennwr Albanaidd ac fe'i adnabyddir am ei synnwyr digrifwch pesimistaidd a dadleuol.[2] Roedd yn banelydd parhaol ar y gêm banel gomedi Mock the Week o ddechrau'r rhaglen yn 2005 i 2009.[3]
Ers gadael y rhaglen, mae Boyle wedi ymddangos fel panelydd gwadd ar nifer o raglenni comedi eraill, yn ogystal â serennu yn Frankie Boyle's Tramadol Nights yn 2010,[4] Frankie Boyle's Rehabilitation Programme yn 2011,[5] The Boyle Variety Performance yn 2012 a Frankie Boyle's Election Autopsy yn 2015.[6] Cyd-ysgrifennodd peilot y comedi sefyllfa radio Blocked yn 2014 gyda Steven Dick. Fe'i darlledwyd ar BBC Radio 4 ar 5 Mehefin, 2014.[7]
Ar 1 Hydref, 2009 rhyddhawyd My Shit Life So Far, hunangofiant Boyle.[8] Rhyddhawyd ei ail lyfr, Work! Consume! Die! ym mis Hydref 2011, a'i drydydd llyfr Scotland's Jesus: The Only Officially Non-racist Comedian ar 24 Hydref, 2013.[9]