Gair mwys

Gair mwys neu fwysair yw y math o dechneg sy'n cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o jôc gan amlaf. Mae llawer o'r rhain yn jôcs un llinell, bachog. Fel arfer, gair mwys yw pan mae gair â dwy ystyr yn mynd i mewn i frawddeg lle mae'r ystyron yn eglur o'r ddau safbwynt. Pethau fel:

  1. Does dim pwynt ysgrifennu â phensil sydd wedi torri.
  2. Roedd ar fy meddwl i gael hyd i fy oriawr coll i, ond doedd yr amser ddim gen i.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in