Galeg

Galeg oedd iaith y Celtiaid yng ngorllewin a chanolbarth Ewrop, yn bennaf yn y rhanbarth a adnabyddir fel Gâl (Lladin: Gallia). Roedd yr Aleg yn iaith Geltaidd yn y gangen o'r teulu hwnnw a elwir yn Gelteg y Cyfandir. Tybir ei bod yn agos iawn i'r Frythoneg a Galateg. Mae hi'n iaith farw ers tua 1500 o flynyddoedd ac rydym yn dibynnu ar dystiolaeth enwau a geiriau yng ngwaith awduron Rhufeinig, arysgrifau ac enwau lleoedd am ein gwybodaeth amdani.

Yr arysgrifau niferus yw'r ffynhonnell bwysicaf. Fe'u hysgrifennir mewn tair gwyddor wahanol. Yn Etrwria a'r cyffiniau ceir rhai arysgrifau Galeg yn yr wyddor Etrwsgeg sy'n dyddio o'r ail ganrif CC. Yn ne Ffrainc ceir tua 60 o arysgrifau yn yr wyddor Ïoneg, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n dyddio o'r ganrif 1af OC, e.e. o ardal Marseille. Yn olaf mae 'na ddosbarth o arysgrifau yn yr wyddor Lladin yng Ngâl ei hun, tua chant ohonyn nhw, sy'n dyddio o'r cyfnod Rhufeinig (y pedair canrif cyntaf OC). Y pwysicaf o'r rhain yw Calendr Coligny, tabledi plwm o Charmalières a Larzac, a graffiti ar grochenwaith o La Graufesenque.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy