Garlleg | |
---|---|
Planhigyn garlleg | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Asparagales |
Teulu: | Amaryllidaceae |
Is-deulu: | Allioideae |
Genws: | Allium |
Rhywogaeth: | A. sativa |
Enw deuenwol | |
Allium sativa L. |
Rhywogaeth yn is-deulu Allioideae y nionyn yw Allium sativum, a elwir yn garlleg yn gyffredin. Mae ei berthnasau agos yn cynnwys y nionyn, y sialotsyn, y genhinen, a'r genhinen syfi.[1] Defnyddiwyd garlleg ers gwawr hanes a cheir cofnodion cynnar o'i ddefnydd mewn coginio a meddygaeth. Mae ganddo nodwedd lem, blas sbeislyd sy'n aeddfedu a melysu'n gryn lawer â choginio.[2]
Cysylltir y llysieuyn â Ffrainc yn draddodiadol, er i'r cysylltiad hwnnw bylu bellach gyda globaleiddio a rhannu traddodiadau bwyd.
Rhennir bwlb garlleg, y darn mwyaf o'r planhigyn a ddefnyddir, yn sawl darn llai a elwir yn glofau. Ceir rhywogaeth o arlleg sydd gyda un clof yn unig hefyd, sy'n frodorol i dalaith Yunnan, Tsieina. Defnyddir y clofau fel hedyn, am gymeriant (amrwd neu wedi'i goginio), ac am bwrpasau meddygol. Bwyteir y dail, coesynnau (llun), a blodau (bylbynnau) ar y pen (fflurwain) hefyd, ac fel arfer pan maent yn anaeddfed a thendr o hyd. Yr haenau papuraidd, amddiffynnol neu'r "groen" ar ddarnau amrywiol y planhigyn a'r gwreiddiau sy'n tyfu o'r bwlb yw'r unig ddarnau a ystyrir i fod heb ddefnydd mewn coginio.