Geg

Tafodieithoedd Albaneg, Geg mewn gwyrdd

Tafodiaeth o'r iaith Albaneg yw Geg (Saesneg: Gheg yn Saesneg; Geg: gegnisht; Alabaneg Safonol: gegë neu gegërishtja). Siaredir hi yng ngogledd Albania, Cosofo, Gogledd Macedonia a Montenegro. Yr afon Shkumbin yw ffin draddodiadol yr iaith. Y brif dafodiaeth arall yn yr iaith Albaneg, yw Tosc (Tosk) a siadedir i'r de o'r afon Shkumbin ac ar draws canol gwladwrieth Albania a nifer o chymunedau bychain Albaneg yn yr Eidal (yr Arberesh) ac Arfanitiaid yng gwlad Groeg. Mae'r ffin ieithyddol yma yn dilyn hen lwybr y ffordd Rufeinig, y Via Egnatia a ceir tiriogaeth traws-dafodiaethol naill ochr i'r afon oddeutu 10 km - 20 km mewn lled. Ceir gwahaniaethau o fewn y dafodiaeth Geg yn enwedig rhwng tafodieithoedd Gogledd-orllewin Albania a Cosofo. Mae'r sefyllfa yng Ngogledd Macedonia hefyd yn wahanol iawn i hynny yn Albania a Cosofo. Mae'r Gegeg a'r Tosceg yn amrywio'n ffonolegol ac yn ramadegol.

Roedd gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol hefyd rhwng y Gegeg a'r Tosceg. Felly, trefnwyd y cyntaf mewn cymdeithasau llwythol (fis yn Albaneg), a oedd yn eu tro yn cael eu grwpio yn deuluoedd estynedig (clan) ac felly dwyn ynghyd o dan gwahanol dirfeddianwyr. Roedd y gyfraith arferol yn fwy amlwg yn cymunedau Geg na Thosc. Cymerodd eu cyfriethiau cynhenid, y Kanun Lek Dukagjini, mewn bywyd cymdeithasol lawer o bwys nag yn nhiroedd Tosc.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy