Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022

Olympic Winter Games
Dinas,
Arwyddair起向未来; Yīqǐ xiàng wèilái (Gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol a rennir)
Gwledydd sy'n cystadlu91
Athletwyr sy'n cystadlu2,871
Agorwyd yn swyddogol ganXi Jinping, Arlywydd Tsieina
Cynnau'r FflamDinigeer Yilamujiang a Zhao Jiawen

Trefnwyd i Tsieina gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022 (Tsieineaidd: 第二十四届冬季奥林匹克运动会; pinyin: Dì Èrshísì Jiè Dōngjì Àolínpǐkè Yùndònghuì), y 24ydd Gemau Olympaidd y Gaeaf, yn Beijing o 4 hyd 20 Chwefror 2022.[1]

Roedd y Gemau 2022 cafwyd ei hadnabod yn gyffredinol fel Beijing 2022 (北京2022), ac yr roedd yn ddigwyddiad aml-chwaraeon gaeafol rhwngwladol cafodd ei gynnal rhwng y 4ydd o Chwefror tan yr 20fed ym Meijing, Tsieina, ac ardaloedd lleol, gyada'r cystadlu mewn cystadlaon pennodol yn cychwyn ar yr 2ail o Chwefror.[2]

Cafodd Beijing ei ddewis fel y safle cynnal yn ystod yr 128fed IOC Sessiwn yn Kuala Lumpur, Maleisia, yr ail waith mae'r ddinas wedi cynnal y gemau, ac yr safle olaf allan o'r tair diweddaraf sy'n cael eu cynnal yn Nwyrain Asia. Ar ôl cynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn flaenorol, ddoth Beijing y ddinas cynaf i gynnal y gemau Olympaidd Haf ac Gaeaf. Roedd y lleoliadau ar gyfer y Gemau yn cylchu'r ddinas, megis maestrefi'r Yanqing District, yn ogystal â Zhangjiakou, gyda ychydig o ddiwgyddiadau (yn cynnwys curling a'r seremoniau) yn defnyddio lleoliadau cafwyd ei aduladu yn wreiddiol ar gyfer Beijing 2008 (er enghraifft Stadiwm Cenedlaethol Beijing a'r Beijing National Aquatics Centre).

Roedd y Gemau yn cynnwys 109 o ddigwyddiadau (y mwyaf eirioed) ar draws 15 o ddisgylblaetholion, gyda sgio freestyle a monobob menywod yn cael eu gynnal am y tro cyntaf yn ogystal â rhagor o gystadlaeon cymysg. Roedd cyfanswm o 2,871 o athletwyr yn cynrychioli 91 o dimau yn cystadlu, gyda Haiti a Saudi Arabia yn cystadlu yn y gemau gaeafol am y tro cyntaf.

Codwyd y penderfyniad i alluogi Beijing i gynnal sawl pryderon a sawl dadleuon yn gysylltiedig a Tseinia yn torri sawl ddef hawliau dynol, megis Hil-laddiad yr Wigwriaid, yn arwain at alwadon i foicotio'r gemau. [3] [4] Fel Gemau Olympaidd yr Haf a gynhaliwyd chwe mis ynghynt yn Tokyo, arweiniodd pandemig COVID-19 at weithredu protocolau iechyd a diogelwch, gan gynnwys cyfyngiadau ar bresenoldeb y cyhoedd yn y Gemau, yn ogystal â diffyg cyfranogiad rhai cenhedloedd.

Y tîm mwyaf llwyddiannus ar y tabl medal roedd Norwy, am yr ail waith, yn ennill cyfanswm o 37 o fedalau, 16 ohonynt yn aur, yn gosod record newydd am y nifer o fedalau aur a enillwyd yn y Gemau.[5] Ddoth Tsiena yn drydydd, gyda 9 medal aur a chyfanswm o 11, ei ymdrech mwyaf llwyddiannus mewn gem Olympaidd gaeafol.[5]

  1. "2022 Winter Olympics officially begin". BBC Sport (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Chwefror 2022. Cyrchwyd 4 Chwefror 2022.
  2. "SuperSport". supersport.com (yn Zhuang). Cyrchwyd 2022-02-25.
  3. Reyes, Yacob (8 Rhagfyr 2021). "Beijing Olympics: These countries have announced diplomatic boycotts". Axios. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Chwefror 2022. Cyrchwyd 5 Chwefror 2022.
  4. Allen-Ebrahimian, Bethany; Baker, Kendall (1 Chwefror 2022). "The IOC stays silent on human rights in China". Axios. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2022. Cyrchwyd 5 Chwefror 2022.
  5. 5.0 5.1 Church, Ben (20 Chwefror 2022). "Norway tops Beijing 2022 medal table after record-breaking performance". CNN. Atlanta, Georgia. Cyrchwyd 22 Chwefror 2022.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy