Gemau Olympaidd yr Haf 2016

Gemau'r XXXI Olympiad
DinasRio de Janeiro, Brasil
ArwyddairByd newydd
(Portiwgaleg:
Um mundo novo)
Gwledydd sy'n cystadlu206
Athletwyr sy'n cystadlu11,000+
Cystadlaethau304 mewn 28 o Chwaraeon Olympaidd
Seremoni AgoriadolAwst 5
Seremoni GloiAwst 21
Agorwyd yn swyddogol ganMichel Temer, Llywydd dros dro
Llw'r CystadleuwyrRobert Scheidt
Llw'r BeirniaidMartinho Nobre
Cynnau'r FflamVanderlei Cordeiro de Lima
Stadiwm OlympaiddEstádio do Maracanã
Seremoni agoriadol yn Rio de Janeiro

Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol ydy Gemau Olympaidd yr Haf 2016, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXXI Olympiad (Portiwgaleg: Jogos Olímpicos de Verão de 2016, ynganiad Portiwgaleg Brasil:[ˈʒɔɡʊz oˈlĩpɪkʊs dʒɪ veˈɾɐ̃ʊ̯ dʒɪ ̩doɪ̯zˈmiw ɪ dʒɪzeˈseɪ̯s]) ac a gynhelir yn Rio de Janeiro, Brasil o 5 Awst hyd 21 Awst 2016. Dyma'r Gemau Olympaidd cyntaf i'w cynnal mewn gwlad sydd a Phortiwgaleg yn iaith swyddogol iddi a'r Gemau cyntaf i'w cynnal yn America Ladin.[1]

Mae dros 11,000 o athletwyr yn cymryd rhan gan gynnwys, am y tro cyntaf, athletwyr o Gosofo a De Swdan.[2][3] Ceir 306 set o fedalau a 28 math o gemau - gan gynnwys rygbi a golff a ychwanegwyd gan y Gymdeithas Olympaidd yn 2009. Lleolir y gemau mewn 33 o fannau gwahanol ar hyd a lled y ddinas a phum dinas arall gan gynnwys São Paulo (dinas fwyaf Brasil), Belo Horizonte, Salvador, Brasília (Prifddinas Brasil), a Manaus.

Roedd 28 o chwaraeon wedi eu cynnwys yn y Gemau. Cafodd Rygbi saith bob ochr a golff ei gynnwys am y tro cyntaf yn y gemau hyn.

  1. "Why Winter Olympics Bypass the Southern Hemisphere - Winter Olympics 2014".
  2. "About Rio 2016 Summer Olympics". Rio 2016 Olympics Wiki. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-08. Cyrchwyd 31 Hydref 2015.
  3. "Olympic Athletes". Rio 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-21. Cyrchwyd 2016-08-04.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy