Gemau Olympaidd yr Haf 2020

Gemau'r XXXII Olympiad
DinasTokyo, Japan
ArwyddairUnedig gan Emosiwn
Gwledydd sy'n cystadlu206
Athletwyr sy'n cystadlu11,326
Cystadlaethau339 mewn 33 o Chwaraeon Olympaidd
Seremoni AgoriadolGorffennaf 23, 2021
Seremoni GloiAwst 8, 2021
Agorwyd yn swyddogol ganNaruhito, Ymerawdwr Japan
Cynnau'r FflamNaomi Osaka

Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol ydy Gemau Olympaidd yr Haf 2020, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXXII Olympiad ac a gynhelir yn Tokyo, Japan, o 23 Gorffennaf hyd 8 Awst 2021. Yn wreiddiol i fod i gael ei gynnal rhwng 24 Gorffennaf a 9 Awst 2020, gohiriwyd y digwyddiad ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.[1] Cynhwyswyd tri deg tri o chwaraeon.

Yn y seremoni agoriadol ar 23 Gorffennaf, cafodd y tîm o Brydain Fawr ei hysgrifennu "EIKOKU" (英国) ar y placard ond cyflwynodd y cyhoeddwr NHK y tîm "IGIRISU" ("Lloegr"). Roedd y hwylwraig Cymreig Hannah Mills yn cario'r faner Prydain Fawr, gyda Mohamed Sbihi.[2]. Yn ystod y Gemau, gwnaeth ei chanlyniadau hi'r morwr benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed.[3]

Tîm nofio Prydain oedd y mwyaf llwyddiannus erioed, ar ôl ennill pedair medal aur, tair arian ac un efydd.[4]

Oherwydd cyfyngiadau COVID, roedd yn rhaid i'r holl gystadleuwyr ddychwelyd i'w mamwlad cyn pen dau ddiwrnod o'u digwyddiad olaf.

  1. "Joint Statement from the International Olympic Committee and the Tokyo 2020 Organising Committee". olympic.org (yn Saesneg). IOC. 24 Mawrth 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mawrth 2020. Cyrchwyd 25 Mawrth 2020.
  2. "Tokyo Olympics opening ceremony: Hannah Mills and rower Mohamed Sbihi to be Team GB flag bearers". BBC (yn Saesneg). 22 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2021.
  3. "Aur i Hannah Mills yn yr hwylio yn Tokyo". BBC Cymru Fyw. 4 Awst 2021. Cyrchwyd 5 Awst 2021.
  4. Nicola Slawson (2 Awst 2021). "Team GB swimmers come home after most successful Olympics". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Awst 2021.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy