Gofod tri dimensiwn

Gofod tri dimensiwn
Mathspace in mathematics, gwrthrych 3-dimensiwn Edit this on Wikidata
Rhan oGofod pedwar dimensiwn Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gangofod dau ddimensiwn Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGofod pedwar dimensiwn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gofod tri dimensiwn y system gyfesurynnol Cartesaidd.
System gyfesurynnol silindrog.
System gyfesurynnol sfferig.

Mewn Mathemateg, mae gofod tri dimensiwn ('gofod-3', neu 'gofod 3-ddimensiwn') yn lleoliad geometrig lle nodir safle rhyw elfen (e.e. pwynt neu groesbwynt) gan dri gwerth a elwir yn "baramedrau"; dyma'r diffiniad anffurfiol.

Caiff ei gynrychioli'n gyffredin gan y symbol 3.

Mewn ffiseg a mathemateg, gellir deall dilyniant o rifau a elwir yn n fel lleoliad mewn gofod n-ddimensiwn. Pan fo n = 3, gelwir y set o bob lleoliad o'r un fath yn "ofod Ewclidaidd tri dimensiwn". Mae hyn yn gweithredu fel model tri pharamedr o'r bydysawd ffisegol (hynny yw, y rhan ofodol, heb ystyried amser) lle mae pob mater sy'n hysbys yn bodoli. Ond, un enghraifft yn unig yw hwn o nifer helaeth o ofodau mewn tri dimensiwn a elwir yn "3-maniffold". Yma, pan fo tri gwerth yn cyfeirio at fesuriadau gwahanol, mewn cyfeiriadau gwahanol (h.y. cyfesurynnau), yna gellir dewis unrhyw un o'r tri chyfeiriad, cyn belled nad yw'r fectorau yn y cyfeiriadau hyn yn gorwedd yn y plân 2-ofod. Ymhellach, yn yr achos yma, gall y tri gwerth yma gael eu labelu gan unrhyw gyfuniad o'r tri term: lled, hyd ac uchder.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy