Gordian III | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ionawr 225 Rhufain |
Bu farw | 11 Chwefror 244 Circesium |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig |
Tad | Junius Licinius Balbus, Gordian II |
Mam | Maecia Faustina |
Priod | Tranquillina |
Plant | Furia |
Llinach | Gordian dynasty |
Marcus Antonius Gordianus (20 Ionawr 225 – 11 Chwefror 244), a adnabyddir fel Gordian III, oedd ymerawdwr Rhufain o 238 hyd 244.
Ganed Gordian III yn fab i Antonia Gordiana, hithau'n ferch i Gordian I a chwaer i Gordian II. Roedd Gordian I, oedd yn broconswl Affrica, wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr Maximinus Thrax, wedi ei gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr ac wedi ei gadarnhau gan y Senedd fel ymerawdwr. Cymerodd ei fab, Gordian II, fel cyd-ymerawdwr. Fodd bynnag gorchfygwyd hwy gan lengoedd oedd yn parhau'n deyrngar i Maximinus. Lladdwyd Gordian II ar faes y gad, a lladdodd ei dad ei hun.
Enwodd y Senedd ddau ymerawdwr arall, Balbinus a Pupienus. Roedd y ddau yma'n amhoblogaidd yn Rhufain, a gorfodwyd hwy i enwi Gordian III fel olynydd, gan fod ei dad a'i ewythr ef wedi bod yn llawer mwy poblogaidd. Pan laddwyd Balbinus a Pupienus gan filwyr Gard y Praetoriwm daeth Gordian III yn ymerawdwr, yn ddim ond 13 oed, ar 29 Gorffennaf 238.
Penododd Gordian ei diwtor Timesteus yn bennaeth Gard y Praetoriwm, ac yn 241 priododd Furia Sabina Tranquilina, merch Timesteus. Tua'r adeg honno ymosododd yr Almaenwyr ar y ffiniau ar Afon Rhein ac Afon Donaw ac ymosododd y Persiaid dan Sapor I ar dalaith Mesopotamia, gan groesi Afon Ewffrates. Am y tro olaf mewn hanes, agorodd Gordian ddrysau teml Ianws a chychwynnodd tua'r dwyrain gyda'i fyddin. Llwyddodd i orchfygu'r Persiaid a'u gwthio i'r dwyrain o'r Ewffrates. Pan oedd wrthi'n paratoi cynlluniau pellach gyda Timesteus, bu hwnnw farw mewn amgylchiadau anhysbys.
Trosgwyddodd Gordian y swydd o bennaeth y Praetoriaid i Marcus Julius Phillipus (Philip yr Arab) ac aeth ymlaen a'r ymgyrch. Gwrthymosododd y Persiaid, ac yn ôl eu croniclau hwy gorchfygasant Gordian a'i ladd mewn brwydr ger Faluja (Irac). Yn ôl y ffynonellau Rhufeinig, fodd bynnag, nid oedd Gordian yn y cyffiniau hyn. Yn hytrach Philip yr Arab a'i llofruddiodd, a'i gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr.
Rhagflaenydd: Balbinus a Pupienus |
Ymerawdwr Rhufain 238 – 244 |
Olynydd: Philip yr Arab |