Grawnffrwyth

Grawnffrwyth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Sapindales
Teulu: Rutaceae
Genws: Citrus
Rhywogaeth: C. × paradisi
Enw deuenwol
C. × paradisi
Macfad.

Coeden isdrofannol sitrws ac arni ffrwyth ydy grawnffrwyth (Sa: grapefruit) sy'n tarddu o ynys Barbados (ble roeddent ers talwm wedi'u gwahardd)[1] ac ynysoedd eraill. Rutaceae ydy'r enw Lladin ar y teulu hwn o blanhigion. Yn Sbaeneg, defnyddir yr enwau toronja neu pomelo.

Mae'r goeden hon, fel arfer, yn tyfu i fod rhwng 5-6 metr o uchder, er y gall rhai ohonyn nhw fod cymaint â 13–15 m (43-49 troedfedd). Dail gwyrdd tywyll, hir, tenau tua 150mm (neu chwe modfedd) sydd ganddi a blodau 5 cm (2 fodfedd) gwyn gyda phedair petal ar bob un. Melyn i oren ydy'r ffrwyth, gyda diametr o 10–15 cm. Mae'r tu fewn i'r ffrwyth (sef y 'mwydion') o liwiau gwahanol hefyd, gan gynnwys gwyn, pinc a choch o felyster gwahanol.

Yn 1929 rhoddwyd breinlen (neu patent) am y tro cyntaf ar rawnffrwyth newydd.[2]

Grawnffrwyth o ardal Califfornia (UDA)

Yn y 19g y daeth y ffrwyth yn boblogaidd; cyn hynny planhigyn ornamental ydoedd. Dros nos, tyfodd UDA i fod y prif gynhyrchwr ffrwythau'r grawnffrwyth gyda perllannoedd yn Fflorida, Texas, Arizona a Califfornia.

  1. Dowling, Curtis F.; Morton, Julia Frances (1987). Fruits of warm climates. Miami, Fla: J.F. Morton. ISBN 0-9610184-1-0URL. OCLC 16947184
  2. Texas grapefruit history Archifwyd 2010-11-28 yn y Peiriant Wayback, TexaSweet. Retrieved 2008-07-02.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy