Grawnwin

Grawnwin
Enghraifft o'r canlynolffrwythau Edit this on Wikidata
Mathaeron, ffrwythau Edit this on Wikidata
Lliw/iaudu, coch, gwyrdd, porffor Edit this on Wikidata
Rhan ogrape juice Edit this on Wikidata
CynnyrchVitis vinifera, Gwinwydden, Vitis vinifera subsp. vinifera Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grawnwin yw ffrwyth y winwydden (Genws Vitis). Gellir ei bwyta neu eu defnyddio i wneud gwin ymhlith pethau eraill.

Mae grawnwin yn tyfu yn glwstwrau o rhwng 6 a 300, a gallant fod yn goch, du, melyn neu gwyrdd. Gwyrdd yw'r grawnwin a ddefnyddir ar gyfer gwin gwyn. Daw'r rhan fwyaf o'r grawnwin a dyfir yn fasnachol o'r winwydden Vitis vinifera, y winwydden Ewropeaidd, sy'n dod yn wreiddiol o ardal Môr y Canoldir a Chanolbarth Asia.

Yn ôl yr FAO, defnyddir 75,866 cilometr sgwar o dir trwy'r byd ar gyfer tyfu grawnwin. Gelwir y tir y tyfir y coed arno yn winllan.

Mannau lle tyfir grawnwin (data o 2005)
Gwlad Arwynebedd a ddefnyddir
Sbaen 11,750 km²
Ffrainc 8,640 km²
Yr Eidal 8,270 km²
Twrci 8,120 km²
Unol Daleithiau 4,150 km²
Iran 2,860 km²
Romania 2,480 km²
Portiwgal 2,160 km²
Yr Ariannin 2,080 km²
Awstralia 1,642 km²
Chwiliwch am Grawnwin
yn Wiciadur.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in