Gruffydd Robert | |
---|---|
Ganwyd | 1527 Sir Gaernarfon |
Bu farw | 1598 Milan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, bardd |
Llenor, offeiriad a gramadegydd Cymraeg oedd Gruffydd Robert (c. 1527-98). Mae'n fwyaf enwog am lunio gramadeg modern cyntaf y Gymraeg (a'r cyntaf i'w gyhoeddi trwy gyfrwng yr iaith ei hun), sef Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg.