Gwaith Haearn Cyfarthfa

"Tu mewn i Waith Haearn Cyfarthfa yn y Nos" gan Penry Williams (1825).
Gwaith Haearn Cyfarthfa yn 1894

Gweithfeydd dur a haearn yn ardal Cyfarthfa, ger Merthyr Tudful, oedd Gwaith Haearn Cyfarthfa. Dan deulu Crawshay, daeth yn un o'r gweithfeydd haearn mwyaf yn y byd yn yr 19g. Roedd yn un o'r pedwar gwaith haearn mawr yn ardal Merthyr, y lleill oedd Dowlais, Plymouth a Penydarren.

Sefydlwyd gweithfeydd Cyfarthfa yn 1765 gan Anthony Bacon. Cymerodd ef a William Brownrigg les ar yr hawl i fwyngloddio 4,000 acer o dir ar ochr orllewinol Afon Taf ger Merthyr Tudful. Dechreuwyd adeiladu'r ffwrnesi cyntaf y flwyddyn wedyn.

Wedi ymddeoliad Brownrigg fel partner yn 1777, daeth Richard Crawshay yn bartner i Bacon. Wedi marwolaeth Bacon, lesiwyd y gweithfeydd gan Crawshay. Tyfodd y gweithfeydd yn gyflym dan ei reolaeth ef. Dilynwyd ef gan ei fab William Crawshay I, yna gan ei fab yntau, William Crawshay II, a apwyniwyd i reoli'r gweithfeydd gan ei dad yn dilyn marwolaeth Richard Crawshay yn 1810. Erbyn 1819, roedd chwe ffwrnais yn cynhyrchu 23,000 tunnell o haearn. Am gyfnod, Cyfarthfa oedd gwaith haearn mwyaf Merthyr, ond tua'r adeg yma tyfodd Gwaith Haearn Dowlais yn fwy nag ef. Tua'r adeg yma, adeiladodd William Crawshay II gartref newydd, Castell Cyfarthfa, gyda golygfeydd o'i waith haearn.

Olion ffwrneisi Gwaith Haearn Cyfarthfa.

Olynwyd William Crawshay II gan Robert Thompson Crawshay. Erbyn hyn roedd cystadleuaeth o wledydd eraill yn cynyddu, ac nid oedd Robert yn barod i newid o gynhyrchu haearn i gynhyrchu dur. Caewyd y gweithfeydd yn 1875. Wedi ei farwolaeth ef, ail-agorodd ei feibion y gweithfeydd, a gafodd eu hail-adeiladu i gynhyrchu dur. Gwerthodd teulu Carwshay y gweithfeydd i Guest Keen and Nettlefolds, perchenogion Dowlais, yn 1902. Caeodd y gweithfeydd eto yn 1910. Ail-agorwyd hwy am gyfnod yn 1915 oherwydd y galw am ddur ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf, ond caewyd hwy'n derfynol yn 1919.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in