Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | rhan o geg, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | organ lleferydd |
Yn cynnwys | gwefus isaf, gwefus uchaf |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Plygion cnodiog yn ffurfio ymylon uchaf ac isaf y geg ddynol yw gwefusau (unigol: gwefus) sydd wedi'u lleoli ar yr wyneb, o gwmpas agorfa y geg ac o flaen y dannedd. Maent yn ddarnau hyblyg, symudol ac yn rhan hanfodol o yfed, siarad a chusanu. Oddi mewn i'r wefus, ceir haen denau o groen, gwaed, cyhyrau a nerfau. Gelwir gwefus yr anifail yn wefl.