Delwedd:Coat of arms of Republic of Genoa.svg, Armoiries Gênes.svg | |
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Genova |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | yr Eidal, Ffrainc |
Cyfesurynnau | 44.4075°N 8.9333°E |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Gatholig Rufeinig |
Arian | Genovino, Genoese lira |
Dinas-wladwriaeth a gweriniaeth arforol a fodolai yng ngogledd yr Eidal o'r 11g hyd at ddiwedd y 18g oedd Gweriniaeth Genova (Eidaleg: Repubblica di Genova, Ligwreg: Repúbrica de Zêna, Lladin: Res Publica Ianuensis). Lleolwyd ym mhorthladd Genova a glannau cyfagos Liguria, a daeth nifer o ynysoedd a thiroedd arforol yn y Môr Canoldir a'r Môr Du dan ei meddiant.
Gellir olrhain hanes Genova yn ôl i 2000 CC pryd cafodd yr ardal ger yr harbwr naturiol ei gwladychu gan forwyr Groegaidd. Bu dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, Teyrnas yr Ostrogothiaid, a Theyrnas y Lombardiaid cyn iddi ddod yn rhan o'r Ymerodraeth Garolingaidd yn niwedd yr 8g ac yna'n rhan o Deyrnas yr Eidal, un o diriogaethau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Tyfodd Genova yn un o brif borthladdoedd y Môr Canoldir ac erbyn yr 11g roedd teuluoedd pendefig yng nghefn gwlad Liguria yn symud i'r ddinas i atgyfnerthu eu grym gwleidyddol ac economaidd.
Enillodd Genova ei hannibyniaeth ar yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1099 ar ffurf y Compagna Communis, cynghrair o fasnachwyr a phendefigion yn cynnwys saith (yn ddiweddarach wyth) compagnies neu urdd a chanddynt lyngesau, glanfeydd, arfau, a rhandiroedd dinesig eu hunain. Yng nghyfnod cynnar y ddinas-wladwriaeth, bu cryn anghytuno rhwng yr uchelwyr ac weithiau aeth yn helyntion yn y strydoedd a brwydrau rhwng y gwahanol luoedd.[1]
Bu Gweriniaeth Genova ar anterth ei grym o'r 12g hyd at ei gorchfygiad gan lynges Gweriniaeth Fenis ym Mrwydr Chioggia (1380). Ildiodd ei thra-arglwyddiaeth yn y Môr Canoldir i Ymerodraeth Sbaen yn nechrau'r 16g, ac o'r cyfnod hwnnw hyd at ddiwedd y 18g llywodraethai Gweriniaeth Genova fel oligarchiaeth dan reolaeth y bendefigaeth.[1]
Yn sgil ymgyrch Napoleon Bonaparte yn yr Eidal, diddymwyd y weriniaeth ym 1797 a sefydlwyd Gweriniaeth Liguria, un o chwaer-weriniaethau Ffrainc, yn ei lle. Yn sgil cwymp Napoleon, ail-sefydlwyd Gweriniaeth Genov am gyfnod byr (1814–5) cyn ei chyfeddiannu gan Deyrnas Sardinia.