Gwinwydden

Gwinwydden
Gwinwydd yn Ciudad Real, Sbaen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Vitales
Teulu: Vitaceae
Genws: Vitis
L.
Rhywogaethau

niferus

Enw am blanhigion yn perthyn o'r teulu Vitaceae yw Gwinwydden (Vitis spp.). Maent yn dwyn grawnwin fel ffrwyth, a defnyddir y rhain i gynhyrchu gwin. Vitis vinifera, sy'n dod o Asia yn wreiddiol, a ddefnyddir i gynhyrchu gwin yn fasnachol fel rheol, ond gellir defnyddio grawnwin nifer o rywogaethau eraill hefyd.

Ceir cofnod o dyfu gwinwydd ar gyfer gwin o gyfnod cynnar iawn yn yr Hen Aifft ac Asia Leiaf, efallai o'r cyfnod Neolithig. Erbyn hyn, tyfir gwinwydd ar draws y byd lle mae'r tywydd yn gymhedrol.

Yn ôl yr FAO, defnyddir 75,866 cilometr sgwar o dir trwy'r byd ar gyfer tyfu gwinwydd ar gyfer grawnwin. Gelwir y tir y tyfir y gwinwydd arno yn winllan.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy