Math | gwlff |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Môr Canoldir |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 36.98°N 10.6°E |
Bae mawr agored yn ne'r Môr Canoldir ar arfordir gogleddol Tiwnisia yw Gwlff Tiwnis. Mae'n ymestyn o Benrhyn Carthago (Cap Carthage: hefyd Cap Farina) yn y gorllewin i bwynt gogleddol Cap Bon yn y dwyrain, pellter o tua 75 km. Ers dyddiau'r Ffeniciaid a'r Rhufeiniaid mae wedi bod yn gysgodfa pwysig i longau. Mae'n gorwedd gyferbyn i ynys Sisili a Sardinia ac felly o bwys strategol er mwyn rheoli'r llwybr morol rhwng y Môr Canoldir gorllewinol a'r rhan ddwyreiniol, trwy Gulfor Sisili.
Yma, yn ôl traddodiad, y glaniodd y frenhines Elissa (Dido yn Eneid Fferyllt) a'i llynges o ffoaduriaid o Tyros (Tyre - mam-ddinas y Carthaginiaid yn Ffenicia) tua 700 CC a sefydlu dinas Carthago. Mae'r gwlff wedi bod yn dyst i sawl frwydr fawr ac wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr Henfyd.
Ar ei glannau gorllewinol ceir nifer o drefi, gan gynnwys (o'r gogledd i'r de) Sidi Bou Saïd ar Benrhyn Carthago, Carthago ei hun, La Goulette ar y fynedfa i Llyn Tiwnis a dinas Tiwnis ei hun, Rades, ez-Zahra a Hammam Lif. Ceir nifer o draethau da sy'n denu trigolion Tiwnis yn yr haf. Mewn cyferbyniaeth mae'r glannau dwyreiniol yn llawer mwy anghysbell gyda nifer o glogwynni a bryniau isel. Ar ôl Hammam Lif yr unig dref o bwys yw Korbous (tref spa) a Sidi Daoud (porthladd bysgota).
Oddi ar benrhyn gogleddol Cap Bon ceir dwy ynys ddeniadol, Zembra a Zembretta, sy'n warchodfeydd natur. Yn dominyddu'r gwlff yn y gorllewin mae mynydd triphyg trawiadol Bou Kornine.