Mae gwlychu gwely (neu wlychu'r gwely) yn digwydd pan fo person yn gwneud dŵr (hy yn piso) yn anwirfoddol yn ystod cwsg. Y term meddygol am hyn yw nocturnal enuresis. Mae dau fath: nocturnal enuresis cynradd - pan fo plentyn yn parhau i wlychu a heb eto fynd i'r arferiad o gadw'n sych; a nocturnal enuresis eilradd - pan fo plentyn neu oedolyn wedi cyfnod sych yn ailgychwyn gwlychu'r gwely. Yng nghyd-destyn pediatreg, gwlychu gwely ydy'r broblem sy'n codi fynychaf o holl broblemau meddygol byd y plentyn. Dengys ymchwiliadau fod rhieni'n poeni'n ormodol am hyn. Mae'r rhan fwyaf o ferched yn sych erbyn maen nhw'n shwech oed, a bechgyn erbyn maen nhw'n saith. Yn ddeg oed, mae 95% o'r plant yn sych. Dengys ymchwiliadau pellach i fyd yr oedolyn fod 0.5% i 2.3% o oedolion yn gwlychu'r gwely.[1]