Gwobr Nobel

Pob blwyddyn, dyfarnir Gwobrau Nobel i bobl neu i gyrff rhyngwladol am ymchwil sylweddol, am ddatblygiadau technolegol newydd neu am gyfraniad arbennig i gymdeithas. Hi yw gwobr bwysicaf y byd yn y chwe maes sy'n cael eu dyfarnu. Dechreuodd y gwobrau ar ôl gorchymyn yn ewyllys Alfred Nobel, diwydiannwr o Sweden a wnaeth elw mawr drwy ddyfeisio deinameit. Yn ôl y sôn, cafodd gryn sioc ei bod hi'n bosib defnyddio deinameit i ddinistrio pethau, felly sefydlodd y gwobrau hyn ar gyfer pobl sydd wedi gwneud tro da, ar lefel byd-eang. Arwyddodd ei ewyllys ar 27 Tachwedd 1895 yn nghlwb Sweden-Norwy ym Mharis. Heddiw, dyfarnir Gwobrau Nobel yn y meysydd isod:

  1. Ffiseg (penderfynir gan Academi Frenhinol Swedaidd y Gwyddorau)
  2. Cemeg (penderfynir gan Academi Frenhinol Swedaidd y Gwyddorau)
  3. Ffisioleg neu Feddygaeth (penderfynir gan Sefydliad Karolinska)
  4. Llenyddiaeth (penderfynir gan yr Academi Swedaidd)
  5. Heddwch (penderfynir gan bwyllgor a benodir gan Storting Norwy)
  6. Economeg (penderfynir gan Academi Frenhinol Swedaidd y Gwyddorau)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in