Gwrach

Gwrachod yn y dychymyg poblogaidd - llun gan Goya, Los caprichos

Yn ôl y ystyr traddodiadol, hen wraig hyll sy'n hyddysg yn swyngyfaredd yw gwrach, (hefyd gwiddon, rheibes, a dewines). Ond y tu ôl i'r ffigwr llên gwerin a gwrachod Calan Gaeaf yn y diwylliant traws-Iwerydd cyfoes, yn aml iawn mae chwedlau am wrachod yn deillio o gof am ferched hyddysg mewn meddyginiaeth draddodiadol ac efallai hefyd am offeiriadesau cyn-Gristnogol. Yn ogystal â hynny, mae rhai pobl heddiw yn ystyried eu hunain yn "wrachod" mewn crefyddau Neo-baganaidd megis Wica. Yn Ewrop, mae'r gred mewn gwrachod yn ofergoel werin holl-Ewropeaidd sy'n hanu o baganiaeth cyn-Gristnogol y cyfandir. Yn Affrica, mae’n gred sydd wedi goroesi hyd heddiw ac â'i wreiddiau yn y crefyddau animistaidd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in