Math | imiwnotherapi |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwrthimiwnedd yw lleihad yng ngweithrediad neu effeithlondeb y system imiwnedd. Mae gan rai rhannau o'r system imiwnedd ei hun effeithiau gwrthimiwnedd ar rannau eraill o'r system imiwnedd, a gall gwrthimiwnedd ddigwydd fel adwaith andwyol i driniaethau ar gyfer cyflyrrau eraill.[1][2]
Yn gyffredinol, caiff gwrthimiwnedd ei achosi'n fwriadol i atal y corff rhag gwrthod organ wedi'i drawsblannu,[3] Caiff hyn hefyd ei ddefnyddio ar gyfer trin clefydau ar ôl trawsblannu mêr esgyrn, neu ar ôl trin clefydau awto-imiwn megis lwpws erythematosus systemig, arthritis rhiwmatoid, Syndrom jögren, neu glefyd Crohn's. Caiff hyn ei wneud fel arfer drwy ddefnyddio meddyginiaethau, ond gall gynnwys llawdriniaeth (splenectomi), plasmapheresis, neu ymbelydredd.