Enghraifft o'r canlynol | gêm bwrdd, math o chwaraeon, gêm dau berson, chwaraeon ar sail gêm, difyrwaith |
---|---|
Math | sequential game, chwaraeon y meddwl, chwaraeon unigolyn |
Dyddiad cynharaf | 1470s |
Dechrau/Sefydlu | 7 g |
Genre | mind game, abstract strategy game |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gêm i ddau sy'n cael ei chwarae ar fwrdd 8×8 o sgwariau golau a thywyll yw gwyddbwyll. Nod Gwyddbwyll yw gosod Brenin y gwrthwynebydd mewn Siachmat. Ystyr Siachmat yw pan fod y Brenin yn methu osgoi cael ei gipio (neu ei ladd) y symudiad nesaf. Mae'n gêm resymegol a thactegol ddwfn iawn, cymaint felly fel bod rhai yn disgrifio chwarae gwyddbwyll yn wyddoniaeth ac yn gelfyddyd. Mae tarddiad y gêm mwy na thebyg yn India neu Tsieina hynafol, ac fe ledaenodd trwy Iran i Ewrop. Roedd "Gwyddbwyll Gwenddoleu" yn un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain; pan osodwyd y darnau gwyddbwyll ar y bwrdd byddent yn chwarae eu hunain.[1]
Gêm fwrdd debyg o ran defnydd o lain siec ond llawer symlach ac haws ei chwarae yw draffts.